Text Box: Elin Jones AC
 Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Pedwerydd Llawr, Tŷ Hywel 
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

16 Rhagfyr 2016

Annwyl Lywydd,

Gwaith Craffu ar Newid Hinsawdd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dilyn cyfarfod Fforwm y Cadeiryddion ar 7 Tachwedd, rwy'n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y dull y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i graffu ar gynnydd o ran newid hinsawdd yng Nghymru.

Rwyf wedi cynnwys manylion y dull y cytunwyd arno fel Atodiad i'r llythyr hwn.

Yn gywir,

Mark Reckless AC

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig


 

Atodiad

Y dull o graffu ar newid hinsawdd

Mae'r papur hwn yn amlinellu'r dull o graffu ar newid hinsawdd y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ('y Pwyllgor').

Yn sail iddo, mae'r trafodaethau a gafwyd â rhanddeiliaid yn y digwyddiad grwpiau trafod ar 6 Hydref ac adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor blaenorol.

Craffu ar Lywodraeth Cymru

Mae'r dull hwn yn ystyried pa mor bwysig yw craffu ar gynnydd a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran newid hinsawdd bob blwyddyn, yn enwedig o gofio nad oes gweithdrefn ar gyfer cyflwyno adroddiadau blynyddol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ( 'Deddf yr Amgylchedd').

Bydd y gwaith craffu blynyddol yn canolbwyntio ar sesiwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r bwriad yw cynnal dadl flynyddol ar newid hinsawdd yn y Cyfarfod Llawn ar ôl hynny (e.e. yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan y pwyllgor).

Bydd gwaith craffu ar sail ad hoc hefyd, er enghraifft os bydd newidiadau polisi neu ddatblygiadau sylweddol sy'n effeithio ar rai sectorau pwysig.

Bydd y Pwyllgor yn gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu i gyd-fynd â'r cerrig milltir allweddol o ran gweithredu Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cyllidebau carbon, rheoliadau newydd, cyhoeddi polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r adroddiad ar dueddiadau tebygol y dyfodol. Gallai hefyd fod yn briodol craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, o safbwynt newid hinsawdd.

Gan fod newid hinsawdd yn fater sy'n effeithio ar sawl portffolio ac yn flaenoriaeth i sawl portffolio, bydd y Pwyllgor yn ystyried gwahodd Ysgrifenyddion a Gweinidogion eraill y Cabinet i ymddangos ger ei fron i drafod eu camau gweithredu, eu polisïau a'u cynnydd o ran newid hinsawdd. Mae'r Pwyllgor yn credu bod gan bob un o Bwyllgorau'r Cynulliad rôl i'w chwarae o ran monitro cynnydd a herio Llywodraeth Cymru ynghylch newid hinsawdd. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio datblygu ffordd gydweithredol o graffu ar y cyd â'r pwyllgorau eraill.

 

Bydd y Pwyllgor yn:

-   cynnal sesiwn flynyddol i graffu'n ddwys ar newid hinsawdd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac, yn dilyn y sesiwn hon, yn gofyn am ddadl ar y pwnc yn y Cyfarfod Llawn;

-   mapio amserlenni allweddol yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac yn trefnu sesiynau ychwanegol er mwyn craffu ar newid hinsawdd fel y bo'n briodol;

-   gwahodd Ysgrifenyddion Cabinet eraill i ymddangos gerbron y Pwyllgor, fel y bo'n briodol.

 

Meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt wrth graffu

Gallai gwaith craffu ar ôl deddfu fod yn ffordd bwysig o fonitro cynnydd o ran newid hinsawdd ac, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cyflwynir adroddiad ar y dangosyddion cenedlaethol bob blwyddyn. Fodd bynnag, ni fydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys manylion ynghylch pam y cafwyd llwyddiant neu beidio.

Mae hyn yn awgrymu bod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun i'r sector cyfan ar liniaru ac addasu ar gyfer newid hinsawdd. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi clywed galwadau am Bolisi Ynni gan Lywodraeth Cymru er mwyn gosod y cyfeiriad yn glir.

Mae angen mynd ar drywydd argymhellion a wnaed mewn gwaith blaenorol ar newid hinsawdd, naill ai i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu, neu i geisio eglurhad os na. Un enghraifft o hyn yw'r Adroddiad ar Ddefnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd, a gyflwynwyd gan is-grŵp defnydd tir a newid hinsawdd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i Lywodraeth Cymru yn 2010. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd Adolygiad o Ddefnydd Tir a Newid Hinsawdd yn 2014.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn monitro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i baratoi cynlluniau ymaddasu sectorol ar gyfer yr amgylchedd naturiol, seilwaith, cymunedau, busnesau a thwristiaeth.

Bydd y Pwyllgor yn mynd ar drywydd y bylchau a nodwyd o ran data. Er enghraifft, nododd Adran Busnes, Menter, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y DU bod yna nifer o broblemau gyda'r data y mae'n ei gynhyrchu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ar lefel Cymru, yn enwedig o ran diffyg data manwl ar lefel sector. Nododd yr Adran Busnes, Menter, Arloesi a Sgiliau a Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd bod rhai sectorau'n dda am gasglu data, ond nad yw eraill, a'i bod yn hanfodol rhoi sylw i'r bylchau yn y data ac yn hanfodol bod data'n cael eu casglu'n effeithiol er mwyn gosod a mesur cynnydd yn erbyn targedau ystyrlon. Bydd y Pwyllgor yn anelu at sicrhau tryloywder ac yn asesu pa mor addas yw targedau Llywodraeth Cymru, ac a oes targedau clir a manwl ar gael er mwyn mesur cynnydd yn gywir.

Bydd y Pwyllgor yn:

-   ymgymryd â gwaith mapio i nodi achosion lle y derbyniwyd argymhellion gan Lywodraeth Cymru, ond ni wnaed fawr ddim cynnydd os o gwbl, ac yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i fynd ar drywydd yr achosion hyn;

-   gofyn i'r grŵp cyfeirio arbenigol sefydlu system goleuadau traffig ar gyfer pob sector (gallai'r 56 maes gweithredu a nodwyd yn Asesiad Risg Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Cymru fod yn fan cychwyn);

-   ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gael eglurhad ynghylch y cynlluniau i ddatblygu polisi strategol i'r sector cyfan ar newid hinsawdd, gan gynnwys pennu cyllidebau newid hinsawdd a dulliau gweithredu o ran addasu a lliniaru;

-   nodi bylchau o ran data ac archwilio sut y gellid ymdrin â'r rhain.

 

Creu grŵp cyfeirio arbenigol

Pan grëwyd swydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, cafodd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ei ddirwyn i ben. Roedd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn grŵp trefnus ac effeithiol o arbenigwyr, a oedd yn rhoi cyngor diduedd i Lywodraeth Cymru ac eraill ar newid hinsawdd, er iddo gael ei greu a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Cytunwyd y bydd grŵp cyfeirio arbenigol tebyg yn cael ei sefydlu yn awr i gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith craffu ar newid hinsawdd.

Nid oes llawer o arbenigwyr newid hinsawdd yng Nghymru ac mae'r Pwyllgor yn ystyriol o faterion capasiti. Wrth noddi'r grŵp cyfeirio arbenigol, bydd y Pwyllgor yn ymdrechu i gydlynu camau gweithredu ac i gydweithio ag eraill, gan ymwneud o bosibl â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Archwilio Cymru, a chan groesawu'r cyfle i gyfnewid gwybodaeth â Llywodraeth Cymru pan fo'n briodol.

Cylch gorchwyl drafft y grŵp cyfeirio arbenigol

Rhoi cyngor arbenigol i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gefnogi ei waith craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth fodloni ymrwymiadau polisi, targedau statudol a dyletswyddau o ran newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys  mesurau addasu a lliniaru o ran newid hinsawdd.

Bydd hyn yn cynnwys:

-   rhoi cyngor i gynorthwyo â rownd o waith craffu blynyddol;

-   cefnogi'r Pwyllgor â'r gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf yr Amgylchedd 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

-   cysylltu'n rhagweithiol â'r Pwyllgor wrth ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg mewn ystod eang o sectorau;

-   ymateb i geisiadau penodol am gyngor mewn perthynas ag unrhyw agwedd arall ar waith y Pwyllgor.


 

Bydd y Pwyllgor yn:

-   creu grŵp cyfeirio arbenigol ar newid hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o'r byd academaidd, y trydydd sector, cyrff anllywodraethol, a chyrff cyhoeddus a statudol fel y bo'n briodol; 

-   sefydlu cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp.

Arbenigedd ychwanegol

Yn ogystal â gweithredu fel corff ymgynghorol i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd, mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud ei fod yn barod i roi cymorth i'r Pwyllgor o ran gwybodaeth gefndirol a thystiolaeth arall. Fodd bynnag, nododd y gallai ymuno â'r grŵp cyfeirio arbenigol wrthdaro â'i rôl statudol i Lywodraeth Cymru. Mae yna gyrff a sefydliadau eraill y gallai fod yn bwysig manteisio ar eu harbenigedd, ond gallai fod yn well ganddynt arsylwi yn hytrach nag ymuno â'r grŵp cyfeirio arbenigol.

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol rôl bwysig i'w chwarae o ran cefnogi o leiaf y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae'r berthynas rhwng y Pwyllgor a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ('y Comisiynydd') yn datblygu a bydd y Pwyllgor yn ymgysylltu â'r Comisiynydd a'i swydd wrth i'r dull hwn o graffu ar newid hinsawdd ddatblygu.

Bydd y Pwyllgor yn:

-   gofyn am sesiwn friffio technegol ar ddull Llywodraeth Cymru i fodelu newid hinsawdd a chyfrifo carbon.

-   gofyn am sesiwn friffio technegol gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gyllidebu carbon;

-   ystyried dulliau deddfwrfeydd eraill y DU yn o ran craffu ar newid hinsawdd.